Anna Birley 8th April 2021 Blog Plaid Gydweithredol Cymru Share Tweet Sefydlwyd y Blaid Gydweithredol ym 1917 fel llais gwleidyddol y symudiad cydweithredol yn y Deyrnas Unedig. Mae’n rhan o Symudiad Cydweithredol byd-eang sy’n cynnwys mwy na biliwn o bobl ym mhedwar ban byd. Rydym yn gweithio gyda’r Blaid Lafur i ddylanwadu ar ei pholisïau ac annog atebion mwy cydweithredol drwy ein Haelodau Llafur a Chydweithredol yn y Senedd, aelodau senedd y DU, aelodau o senedd yr Alban, arglwyddi, comisiynwyr yr Heddlu a Throsedd, meiri wedi’i hethol a channoedd o gynghorwyr lleol. Mae sefydliad cydweithredol yn sefydliad sy’n eiddo ei aelodau ac sy’n cael ei reoli ganddynt. Gweithwyr sy’n berchen ar gydweithfeydd gweithwyr ac yn eu rheoli, a defnyddwyr sy’n berchen ar gydweithfeydd defnyddwyr ac yn eu rheoli; tenantiaid sy’n berchen ar gydweithfeydd tai ac yn eu rheoli; aelodau ffermwyr sy’n berchen ar gydweithfeydd amaethyddol ac yn eu rheoli; adneuyddion sy’n berchen ar undebau credyd ac yn eu rheoli. Ledled y byd, mae 3 miliwn o gydweithfeydd yn darparu swyddi neu gyfleoedd gweithio i 10% o’r boblogaeth gyflogedig. Mae’r 300 o gydweithfeydd neu gwmnïau cydfuddiannol mwyaf yn creu $2,035 biliwn wrth ddarparu’r gwasanaethau a’r isadeiledd y mae eu hangen ar gymdeithas i oroesi . Mae’r mentrau hyn yn chwarae rolau cymdeithasol ac economaidd arwyddocaol yn eu cymunedau. Mae maint a chwmpas y symudiad cydweithredol a chydfuddiannol yng Nghymru yn sylweddol, a chaiff ei amcangyfrif yn rhy isel yn aml. Mae’n darparu gwasanaethau ariannol o feintiau amrywiol o Gymdeithas Adeiladu Principality i undebau credyd lleol; a siopau manwerthu, o’r Co-operative Group i gydweithfeydd cymunedol lleol. Mae busnesau cydweithredol yn cynnal gwasanaethau angladd, tai cymdeithasol, gofal yn y cartref, gofal plant, gofal preswyl, cynlluniau ynni gwyrdd a phob ffurf o fusnes newydd a thraddodiadol y mae cyflogeion yn berchen arno, gan gyfrannu £3 biliwn i economi Cymru. Mae ganddynt un peth yn gyffredin – maent yn darparu swyddi ac yn creu cyfoeth mewn llawer o gymunedau Cymru, a chânt eu rheoli gan y bobl maent yn eu gwasanaethu neu sy’n gweithio iddyn nhw. Cyfraniad y Blaid Gydweithredol i’r dasg o bennu cyfeiriad y Blaid Lafur yng Nghymru yn y dyfodol yw’r ddogfen hon. Mae wedi’i llunio yng nghysgod COVID-19 ond mae’n cynnwys cred gadarnhaol yn yr arweinyddiaeth a roddwyd yng Nghymru drwy gydol 2020 ac uchelgais clir sy’n rhoi Cymru ar flaen y gad yn y Gymanwlad Gydweithredol. Yn y ddau ddegawd ers i ddatganoli arwain at sefydlu Llywodraeth Cymru, rydym ni wedi cyfrannu’n sylweddol a sicrhau bod Cydweithrediaeth yn llinyn euraidd sy’n rhan gyson o stori Cymru yn yr 21ain ganrif ac rydym wedi cael ein gwobrwyo gyda brwdfrydedd arweinyddiaeth Plaid Lafur Cymru i fabwysiadu Cydweithrediaeth. Nid yw hyn erioed wedi bod yn gliriach nag yn 2020 – blwyddyn y pandemig. Yn hytrach na chael eu diystyru yn ystod y pandemig, mae buddion dilyn egwyddorion cydweithredol wedi bod yn enwedig o amlwg ers dyfodiad COVID-19. Mae arweinyddiaeth y Prif Weinidog Mark Drakeford a’r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething wedi rhoi eglurder i’r cyhoedd yng Nghymru, ac mae wedi’i seilio ar yr angen am gydweithredu i fynd i’r afael â’r feirws ac yn llawn ymdeimlad o gymuned a chydgefnogaeth, sef egwyddorion craidd cydweithrediaeth ar waith. Mae gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi gweithio gydag arweinwyr llywodraeth leol ac wedi apelio am gydgefnogaeth gymunedol wrth iddynt weithio yn ystod adeg ddigynsail i wneud y gorau i’r cyhoedd. Mae cyrff heb eu datganoli wedi ymateb yn gadarnhaol i weithio mewn amgylchedd datganoledig adeiladol, ac mae hyn diolch i’r rôl a chwaraewyd gan ein dau Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu Llafur a Chydweithredol. Ac er bod ymateb i’r pandemig wedi galw am amser, egni ac adnoddau sylweddol gan yr holl asiantaethau, rydym ni wedi bod yn dyst i ddatblygiadau cadarnhaol yng Nghymru o ganlyniad i’r ymdeimlad o gydweithio a chydgefnogaeth. Mae cydweithredu yn cynnig llinyn euraidd o ddemocratiaeth ystyrlon rydym yn gobeithio y bydd yn rhedeg drwy bob rhan a sector o Economi Bywyd Cyhoeddus Cymru – a dyma ein cyfraniad at stori Plaid Lafur Cymru yn y dyfodol.